dych chi'n adnabod rhywun sydd wedi dysgu'r Gymraeg, ac mae wedi newid eu bywydau, ydyn nhw'n ysbrydoli eraill neu wedi newid gyrfaoedd oherwydd hynny?
Ydych chi'n adnabod siaradwr Cymraeg sy'n rhannu ein hiaith hardd trwy ysbrydoli ac addysgu eraill?
Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n hyrwyddo'r iaith tra'n dal i ddysgu a gwneud gwahaniaeth?
Rydyn ni eisiau gwybod!
Rydym am ddangos ein dysgwyr ysbrydoledig a'n siaradwyr Cymraeg ym Mlaenau Gwent drwy lunio cyfres o astudiaethau achos o bob cwr o Flaenau Gwent sy'n dangos cryfder yr iaith a'r diwylliant yn ein bwrdeistref a'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud oherwydd hynny. Rydyn ni'n creu rhestr anrhydeddau Shw'mae su'mae ac rydyn ni eisiau gwybod pwy ydych chi'n meddwl sy'n haeddu bod arni?