Sut mae hyn yn cael ei ariannu?

    Mae hyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU ar ran Cronfa Effaith Balchder Bro. Darllen mwy: https://www.gov.uk/government/publications/pride-in-place-impact-fund/pride-in-place-impact-fund-prospectus

    Beth yw Cronfa Effaith Balchder Bro?

    Mae Cronfa Effaith Balchder Bro (PiPIF) yn rhaglen ledled Prydain Fawr a'i nod yw darparu buddsoddiad i adfer balchder yn eich bro, cefnogi cydlyniant cymunedol, ac ysgogi gweithgaredd economaidd lleol trwy welliannau gweladwy, tymor byr, dan arweiniad y gymuned.

    Cronfa Effaith 'Pride in Place' – Camau Nesaf

    1. Cronfa Effaith Balchder Bro – Y Camau Nesaf
    2. Cael Cymeradwyaeth Wleidyddol ar gyfer y Safle Arfaethedig
    3. Ymgynghori, Ymgysylltu a Chynnwys Rhanddeiliaid a'r Gymuned Ehangach
    4. Prosesau Datblygu Tendrau a Chontractio. I'w Gwblhau erbyn Mawrth 2027

    Pam mae'r parc hwn wedi'i ddewis?

    Mae meini prawf llym ar waith ar gyfer yr holl gyllid sy'n gysylltiedig â rhaglen Pride in Place Llywodraeth y DU. Nodwyd Parc Lles Brynmawr ar gyfer cyllid yn dilyn asesiad a arweiniwyd gan dystiolaeth a nododd anghenion diogelwch cymunedol, chwarae a hamdden, lefelau uchel o ddefnydd cyhoeddus, a chysylltiadau cryf â chanol y dref. Roedd y parc yn darparu'r cyfle gorau i gyflawni gwelliant sylweddol, parhaol sydd o fudd i'r ystod ehangaf o drigolion tra'n bodloni'r gofynion ariannu.