FAQs
A ellir gwireddu pob syniad?
Na. Rydym yn croesawu pob syniad, ond bydd angen i unrhyw welliannau yn y dyfodol fod yn fforddiadwy, yn ymarferol, yn ddiogel ac yn gyraeddadwy o fewn y cyllid sydd ar gael. Bydd adborth gan y gymuned yn helpu i nodi'r blaenoriaethau uchaf.
Am beth mae'r buddsoddiad hwn?
Mae'r cyllid wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer gwella ac uwchraddio Parc Sglefrio Blaenau presennol. Caiff ei ddefnyddio i wella'r cyfleuster presennol ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau nad ydynt yn gysylltiedig ag ef, nac i symud y parc sglefrio i leoliad gwahanol.