Dyfodol y Gymraeg ym Mlaenau Gwent - Dweud Eich Dweud
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn adolygu ei Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2022-2027, a hoffem glywed eich barn.
Ein nod yw helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl ledled Blaenau Gwent weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd, boed hynny yn y gwaith, yn yr ysgol, mewn gweithgareddau cymunedol, neu wrth fynd a dod.
Rydym am ddeall beth sydd wedi gweithio'n dda hyd yn hyn, ble gallem wneud mwy, ac a ydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir i helpu'r Gymraeg i ffynnu yn ein cymunedau. Bydd eich adborth yn helpu i lunio ein Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg nesaf ac yn sicrhau ei bod yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl leol.
Caiff pob ymateb ei drin yn gyfrinachol a'i ddefnyddio i'n helpu i gynllunio gweithgareddau a chyfleoedd yn ymwneud â'r Gymraeg ar gyfer y dyfodol ledled Blaenau Gwent.

Rydym yn adolygu'r cynnydd o ran ein Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2022-2027. Hoffem wybod pa mor dda rydych chi'n credu ein bod wedi cyflawni ein hamcanion, beth sydd wedi gweithio'n dda, lle mae angen gwelliannau, ac a yw ein blaenoriaethau'n parhau i fod y rhai cywir ar gyfer y dyfodol. Bydd eich adborth yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu ein Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg nesaf.
Caiff pob ymateb ei drin yn gyfrinachol a'i ddefnyddio i gefnogi cynllunio a gosod blaenoriaethau yn y dyfodol.