Trefi Gyda'i Gilydd – Adnewyddu Stryd ym Mrynmawr

Yn dilyn llwyddiant Hwb diweddar i Ganol Tref Abertyleri, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn archwilio prosiect gwella tebyg a arweinir gan y gymuned ym Mrynmawr ac eisiau i drigolion helpu i benderfynu ble y dylai gwaith ddechrau.

Yn gynharach eleni, daeth busnesau, trigolion, grwpiau cymunedol a'r Cyngor at ei gilydd yn Abertyleri ar gyfer menter gwella canol trefi â ffocws. Daeth y prosiect i ben gyda gweddnewidiad undydd o Stryd Somerset, lle helpodd gwirfoddolwyr i lanhau'r ardal, adnewyddu dodrefn stryd a murluniau, gwella ymddangosiad siopau gwag, a chreu amgylchedd mwy croesawgar i ymwelwyr a phobl leol.

Dangosodd y fenter sut y gall gwelliannau ymarferol ar raddfa fach a chyfranogiad cymunedol wneud gwahaniaeth gweladwy i edrychiad a theimlad canol tref ac annog mwy o ymwelwyr a balchder dinesig.

Rydym nawr yn edrych ar ddod â'r dull hwn i Frynmawr, gan ddechrau gyda rhaglen glanhau a gwella'r amgylchedd. Cyn i'r gwaith ddechrau, hoffem i drigolion ddweud wrthym pa ardal y dylid ei blaenoriaethu gyntaf trwy ddefnyddio'r offeryn 'Pleidlais Gyflym'.