Cerflun Steve Jones MBE
Anrhydedd i'r Arwr Rhedeg Steve Jones gyda Cherflun yng Nglynebwy
Dadorchuddiwyd cerflun dur o un o arwyr chwaraeon mwyaf Cymru, Steve Jones MBE, OLY a Rhyddfreiniwr Blaenau Gwent, gan y dyn ei hun yng Nglynebwy heddiw.
Mae'r cerflun yn coffáu cyflawniadau chwedlonol yr athletwr ac fe'i dadorchuddiwyd ym mhresenoldeb cymuned falch; urddasogion lleol a chenedlaethol; enwau blaenllaw o fyd rhedeg; sefydliadau chwaraeon Cymru; plant a phobl ifanc a chynrychiolwyr o'r RAF a Chadetiaid ATC lleol.
Roedd Steve yn rhan o Sgwadron Glynebwy 1158 Glynebwy, a roddodd y cyfle iddo arddangos ei ddoniau am y tro cyntaf. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol, gan gyfuno ei fywyd milwrol a'i yrfa athletau oedd yn blodeuo, gan redeg yn aml yn gwisgo fest yr RAF.
Darllenodd ffrind da i Steve, Kelvin Smith, ei gerdd gyffrous ‘Because you are our Legend’ i’r dorf a chanodd Côr Meibion Beaufort ddwy gân, cyn arwain y dorf yn yr Anthem Genedlaethol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Mae’r cerflun, a grëwyd gan yr artist Tim Ward, yn cyfleu ystum eiconig Steve o’i fuddugoliaeth a dorrodd record ym Marathon Chicago ym 1984 – eiliad a ysgythrodd ei enw i hanes athletaidd byd-eang.
Dywedodd Steve, yn llawn emosiwn:
“Mae hi wastad yn hyfryd dod adref, ond roedd yr amser hwn yn arbennig iawn. Pwy fyddai wedi meddwl, pan adawais i Lynebwy ar Chwefror 19eg 1974 fel bachgen 18 oed i ymuno â’r Llu Awyr Brenhinol gydag ychydig bach o brofiad rhedeg, y byddai hyn yn cael ei feithrin a’i ddatblygu’n rhan mor enfawr o fy mywyd. Mae fy nghyflawniadau nid yn unig yn siarad am y gwaith a’r hyfforddiant a wnes i a fy hyfforddwyr i’m camp, ond maent hefyd yn adlewyrchiad mawr o ble rwy’n dod. Fe wnaeth tyfu i fyny yng Nglynebwy, ac yn enwedig Hilltop, fy nghreu a’m mowldio i fod y person a’r athletwr a ddeuthum, ac ni fyddaf byth yn anghofio hynny. Felly, i ddyfynnu’r cawr, Michael Foot, bob tro y byddwn yn gwisgo pâr o esgidiau rhedeg, lle bynnag yr oeddwn o gwmpas y byd, nid yn unig roeddwn yn cynrychioli fy ngwlad Cymru ond hefyd Glynebwy.
Mae'n debyg mai heddiw yw un o ddyddiau mwyaf rhyfeddol fy mywyd. Wrth imi ymdrechu i anrhydeddu Glynebwy a Hilltop, dw i mor hapus bod Blaenau Gwent a Glynebwy yn arbennig yn anrhydeddu’r bachgen ifanc o Hilltop a lwyddodd. Diolch, Diolch, Diolch.”
Mae Steve, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 70 oed yn ddiweddar, yn ymweld o'i gartref yn Colorado, UDA. Ar ôl y dadorchuddio cymerodd ran yn ‘An Audience with Steve Jones – Celebrating Local Greatness’, digwyddiad yn myfyrio ar fywyd a gyrfa hynod bwysig.
Ar ddiwedd y dydd, cyflwynwyd sgrôl Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn swyddogol i Steve gan Aelod Llywyddol Cyngor Blaenau Gwent, y Cynghorydd Chris Smith.
Mae’r dathliad hwn o Steve yn ganlyniad partneriaeth rhwng Cyngor Blaenau Gwent, Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, gyda chefnogaeth gan gyllido torfol a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae etifeddiaeth Steve Jones yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau. Mae ei fuddugoliaethau yn cynnwys buddugoliaethau ym Marathons Chicago a Llundain, ac mae ei restr lawn o lwyddiannau i’w gweld yma: https://en.wikipedia.org/wiki/Steve_Jones_(runner)
Roedd y llynedd yn nodi 40 mlynedd ers iddo ennill record byd yn Chicago, ac roedd mis Ebrill eleni yn nodi 40 mlynedd ers ei fuddugoliaeth ym Marathon Llundain.
Beth yw eich stori chwaraeon chi?
Mae cerflun Steve Jones MBE yn dathlu taith chwaraeon nodedig, ond mae gan bob cymuned straeon am chwaraeon yn gwneud gwahaniaeth. P'un a ydych chi wedi cynrychioli eich tref, wedi gwirfoddoli mewn clwb lleol, wedi hyfforddi pobl ifanc, neu wedi dod o hyd i gyfeillgarwch a hyder trwy chwaraeon, rhowch wybod i ni!
- Does dim straeon i'w dangos. Pam nad ydych chi'n rhannu un?


