Arolwg Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Rydym am ddarparu rhwydwaith i Flaenau Gwent sy’n sicrhau mai dulliau teithio fel cerdded, olwyno a beicio yw’r rhai mwyaf naturiol a normal ar gyfer siwrneiau lleol – a thrwy wneud hynny, hyrwyddo iechyd a lles pawb a gwneud ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd haws i fyw ynddynt.

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella ei lwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cymeradwywyd ein map presennol gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac mae’n bryd nawr adlewyrchu’r newidiadau a’r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.

Rydym yn adolygu ac yn mireinio’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol i gynnwys:

  • Llwybrau’r Presennol: Dyma lwybrau sy’n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, olwyno a beicio (neu’r tri).
  • Llwybrau’r Dyfodol: Dyma lwybrau arfaethedig nad ydynt yn bodoli eto neu sydd angen gwelliannau i fodloni’r safonau gofynnol.

Mae’r sylwadau a’r awgrymiadau wedi cael eu hadolygu ac mae mapiau wedi’u paratoi ar gyfer ymgynghoriad statudol 12 wythnos o hyd. Bydd hyn yn rhedeg o 03/08/2026 i 25/10/2026 . Bydd y map diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026.