Beth yw teithio llesol?

    Teithio Llesol yw'r enw a roddir ar deithiau pellter byr bob dydd y mae pobl yn eu gwneud ar droed neu ar feic, fel teithio i'r gwaith, i'r ysgol, i'r coleg neu i gyrraedd siopau a chyfleusterau eraill. Gall hyn hefyd gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd eraill.
     Nid yw Teithio Llesol yn cyfeirio at deithiau y gall pobl eu gwneud at ddibenion hamdden, fel cerdded neu feicio yn y cefn gwlad.

    Pam mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal?

    Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn wreiddiol yn 2013, gwnaeth y ddeddfwriaeth hon hi'n ofyniad cyfreithiol i gynghorau yng Nghymru hyrwyddo a datblygu rhwydwaith o lwybrau Teithio Llesol yn eu hardaloedd. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi adeiladu seilwaith newydd, gwella llwybrau Teithio Llesol presennol a darparu cyfleusterau newydd er budd cerddwyr, defnyddwyr olwynion a beicwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu ac ymgynghori ar eu cynlluniau ar gyfer Teithio Llesol yn y dyfodol.

    Beth sydd wedi newid?

    Mae'r newidiadau canlynol wedi'u gwneud i'r drafft o'r rhwydwaith llwybrau ar gyfer y dyfodol:

    Rhif ATNMDisgrifiad o'r llwybr newid arfaethedig
    AB3Gorsaf drenau yn y dyfodol yn Abertyleri Diweddarwyd y llwybr i ychwanegu cangen at fynedfa'r orsaf
    NGB6.3Llwybr yn rhedeg trwy safle Ysgol Gynradd Coed Y Garn
    Adran o'r llwybr sy'n mynd trwy safle'r ysgol wedi'i chael gwared
    AB7.4Llwybr sy’n amgylchynu parc busnes Roseheyworth Anstrategol ac anuniongyrchol, llwybr wedi'i dynnu'n ôl 
    NGB4.7Ffordd yr Orsaf, Blaenau Mae'r llwybr yn cyd-fynd â NGB2; tynnwyd yr adran ddyblyg
    NGB4.6.1Victoria Street, Blaenau
    Llwybr wedi'i ddiweddaru a'i alinio â NGB4.6 
    NGB4.6Llwybr osgoi i'r Stryd Fawr drwy Heol yr Orsaf, Blaenau
    Ail-alinio'r llwybr gyda'r llwybr troed ac ailgysylltu â rhan ddeheuol NGB4.6.1
    AB6Maes hamdden Cwmtyleri
    Llwybr wedi'i ail-alinio drwy'r parc i gynlluniau llwybr y dyfodol