Beth yw teithio llesol?

    Teithio Llesol yw'r enw a roddir ar deithiau pellter byr bob dydd y mae pobl yn eu gwneud ar droed neu ar feic, fel teithio i'r gwaith, i'r ysgol, i'r coleg neu i gyrraedd siopau a chyfleusterau eraill. Gall hyn hefyd gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd eraill.
     Nid yw Teithio Llesol yn cyfeirio at deithiau y gall pobl eu gwneud at ddibenion hamdden, fel cerdded neu feicio yn y cefn gwlad.

    Pam mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal?

    Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn wreiddiol yn 2013, gwnaeth y ddeddfwriaeth hon hi'n ofyniad cyfreithiol i gynghorau yng Nghymru hyrwyddo a datblygu rhwydwaith o lwybrau Teithio Llesol yn eu hardaloedd. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi adeiladu seilwaith newydd, gwella llwybrau Teithio Llesol presennol a darparu cyfleusterau newydd er budd cerddwyr, defnyddwyr olwynion a beicwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu ac ymgynghori ar eu cynlluniau ar gyfer Teithio Llesol yn y dyfodol.